Datblygwyd y cymhorthion canlynol i’ch helpu chi i gamu i fyd dysgu creadigol. Maen nhw’n cynnig cymysgedd o weithgareddau hunan-fyfyrio, cyngor ar gynllunio ar gyfer creadigrwydd, a chynigion ymarferol ar integreiddio dysgu creadigol i’ch arferion.

Trwy ddarllen ein tudalen ar ddiffinio creadigrwydd a’n tudalen dysgu creadigol, byddwch wedi gweld bod dysgu’n broses ar y cyd rhwng athrawon, proffesiynolion creadigol a dysgwyr yn ein rhaglen er mwyn meithrin creadigrwydd wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth pwnc. Er nad yw hi’n bosibl tynnu arbenigedd creadigol proffesiynolion creadigol i mewn bob tro (er y gall ein rhaglen eich cynorthwyo i wneud hyn) mae yna gamau y gall athrawon eu cymryd i sefydlu dulliau dysgu creadigol yn eu harferion.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cyflawni’r camau cyntaf yn eu trefn. Dylech ddarllen y cynnig, arbrofi, myfyrio cyn dod nôl at yr un nesaf wedyn.

Does dim amheuaeth taw creadigrwydd yw’r adnodd dynol pwysicaf un. Heb greadigrwydd, does dim datblygiad, a byddem yn ailadrodd yr un patrymau byth a hefyd.’ - Edward de Bono

Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae creadigrwydd yn cynnig sgil gwirioneddol a diriaethol y gall dysgwyr ei defnyddio a’i datblygu trwy gydol eu hoes. Mae’r ffilm ganlynol yn rhoi cyfle i chi glywed gwahanol safbwyntiau ar bwysigrwydd creadigrwydd mewn addysg. Mae rhagor o fanylion am hyn ar ein tudalennau beth yw creadigrwydd a beth yw dysgu creadigol.

Mae diffiniad ymarferol o beth yw creadigrwydd yn bwysig cyn y gallwn feithrin creadigrwydd ein dysgwyr. Mae rhai yn gweld creadigrwydd fel dawn neu dalent arbennig sy’n gysylltiedig â math penodol o gelfyddyd.
Yn ein rhaglen, rydyn ni’n defnyddio model yr Arferion Meddwl Creadigol a ddatblygwyd gan Ganolfan Dysgu’r Byd Go Iawn. Mae yna bump arfer, sef: Dychymyg, Chwilfrydedd, Dyfalbarhad, Cydweithredu a Disgyblaeth. Gellir rhannu’r arferion hyn yn is-arferion.

Mae’r model Arferion Meddwl Creadigol yn caniatáu i athrawon a dysgwyr weld creadigrwydd fel gallu pob dydd y gellir ei feithrin a’i ddatblygu yng ngoleuni profiadau newydd.

Fel ymarfer myfyrio, byddem yn eich annog chi i lenwi’r Olwyn Arferion Meddwl Creadigol gan feddwl am eich creadigrwydd eich hun. Gallwch ddefnyddio’r olwyn fel offeryn dysgu gyda’ch dysgwyr hefyd.

 

Gall dysgu creadigol ddigwydd mewn mannau annisgwyl ac anghyffredin yn aml, naill ai ar dir yr ysgol neu’r tu hwnt. Rydyn ni’n aml yn ffeindio bod dysgwyr yn ymddwyn ac yn ymateb mewn ffordd wahanol yn y llefydd hyn, gan dorri’n rhydd o ffyrdd confensiynol o feddwl.

Creodd dysgwyr CA2 Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dinbych y Pysgod ‘Amgueddfa Hud’ gan ddefnyddio gofod segur oddi ar un o brif goridorau’r ysgol. Llenwodd y dysgwyr y lle ag arteffactau i sbarduno eu dychymyg a hybu ysgrifennu creadigol.
Creodd dysgwyr CA4 yn Ysgol Gyfun Glan y Môr lwybr digidol i helpu i wneud y gymuned leol ac ymwelwyr yn fwy ymwybodol o dreftadaeth Porth Tywyn.

Trwy ein rhaglen Dysgu Creadigol, rydyn ni’n annog ysgolion i arbrofi gyda’r Ystafell Ddosbarth Weithredol. Datblygwyd y model yma gan Creativity, Culture & Education (CCE) a gallwch ei ddefnyddio i ystyried amodau amgylcheddau dysgu. Yn ôl gwaith ymchwil CCE, o dan amodau dysgu gweithredol, roedd mwy o ddysgwyr yn ymgysylltu’n well yn gymdeithasol, yn emosiynol, yn ddeallusol ac yn gorfforol. Mae hyn yn helpu i fagu hyder a llesiant ac yn gwella cyflawniad.

Lawrlwythwch y Ddogfen Ystafell Ddosbarth Weithredol, a gwyliwch un o’r straeon prosiect ar ein rhestr chwarae dysgu creadigol, ac fe welwch chi fannau dysgu gweithredol ar waith.

Ymarfer myfyrio: myfyriwch ar eich lle dysgu eich hun. Sut gallech chi defnyddio’r model yma i helpu i newid eich arferion eich hun? Pa ofodau neu lefydd sydd ar gael i chi y gallech eu defnyddio fel mannau dysgu?

Gallwch gwblhau gweddill y camau hyn mewn unrhyw drefn. Eu bwriad yw rhoi syniadau i chi a’ch tywys trwy elfennau o brosiect dysgu creadigol.

Mewn amgylchedd dysgu creadigol, cwestiwn ymholi sy’n fframio’r dysgu’n aml. Mae cwestiynau ymholi fel arfer yn deillio o flaenoriaeth datblygu ysgol. Dylai’r cwestiynau hyn fod yn syml ac â ffocws ar ddod o hyd i atebion i broblem neu fater o fewn eich ysgol.

Esiamplau

  • Sut gellir defnyddio creu ffilm fel offeryn i archwilio llesiant dysgwyr wrth ddatblygu eu sgiliau llafaredd, eu sgiliau amlgyfrwng a’u harferion dysgu?
  • Pa ‘adnoddau’ sydd ar gael ar stepen y drws i helpu dysgwyr ac athrawon i archwilio Cymru amlddiwylliannol?

Defnyddiwch y ddogfen isod a chynllun datblygu eich ysgol i’ch helpu chi i lunio cwestiwn ymholi y gallech ei archwilio yn y dosbarth.

 

Mewn amgylcheddau dysgu creadigol, mae athrawon yn aml yn llywio dysgwyr yn hytrach na’u cyfarwyddo. Trwy ganiatáu i ddysgwyr fod yn gyd-gynllunwyr a chael llais ymarferol yng nghyfeiriad eu haddysg, maen nhw’n aml yn ymrwymo’n llwyr i’r broses. Trwy ganiatáu i ddysgwyr ganfod, dehongli, dadansoddi ac adeiladu eu dysg eu hunain, maen nhw’n datblygu arferion dysgu cadarn ac yn dechrau sylweddoli taw nhw sydd wrth y llyw.

Cwestiynau myfyrio:

  • I ba raddau ydych chi’n caniatáu i ddysgwyr lywio eu dysg eu hunain?
  • Beth gallech ei golli neu ei ennill o roi mwy o berchnogaeth i ddysgwyr dros eu dysg?

Rydyn ni wedi ariannu dros 1000 o brosiectau dysgu creadigol mewn ysgolion. Os ydych chi’n chwilio am syniadau neu ysbrydoliaeth, darllenwch rai o’n Straeon Prosiect. Mae’r straeon wedi eu categoreiddio fel y gallwch ddod o hyd i esiamplau sy’n gyson â’ch anghenion chi. Mae ambell i ffilm ychwanegol am straeon prosiect i’w gweld yn y rhestr chwarae yma..

Sbardunwch ddysgu trwy ymweld ag oriel, theatr, canolfan gelfyddydau neu leoliad diwylliannol arall. Gallwch wneud cais am hyd at £1000 i ariannu 90% o gost ymweliad gan ddefnyddio ein cronfa Ewch i Weld.

Mae’r syniad o fabwysiadu dulliau dysgu creadigol am y tro cyntaf yn gallu bod yn ddigon i godi ias ar rywun. Yn aml, gall amgylcheddau dysgu creadigol fod yn ‘flêr’, ac rydych chi’n debygol o deimlo bod gennych lai o reolaeth dros y dysgu nac wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol. Mae athrawon wedi dweud wrthym fod y newid yma’n gallu bod yn anghyfforddus, ond mae’n gallu rhoi ymdeimlad o ryddid hefyd. Yn yr adran Clywed gan athrawon, cewch glywed straeon am brofiadau athrawon o ddefnyddio dulliau dysgu creadigol o lygad y ffynnon.

Mae dysgu dilys yn union gysylltiedig â diddordeb dysgwyr, eu harsylwadau, straeon, cymunedau a’u hanes. Dysgu yn y byd go iawn yw hyn lle mae gwerthoedd a barn y dysgwyr yn cyfri ac yn rhan allweddol o’r broses o ddysgu. Mae dysgu creadigol yn creu amgylchedd lle mae dysgwyr yn cael eu hymbweru i rannu eu safbwyntiau a’u dirnadaeth unigryw o’r byd.

Mae’r gallu i ddysgwyr ddod â’u ‘hunan cyfan’ i’r amgylchedd dysgu’n cyfrannu at eu datblygiad holistaidd. Yn ôl ein canfyddiadau ni, mae dysgwyr sydd wedi eu hymgysylltu’n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol ac yn wybyddol yn llewyrchu. Mae gwell llesiant yn arwain at well perfformiad yn y pen draw.

Esiampl: Gweithiodd dysgwyr Blwyddyn 8 Campws yr Esgob Hedley Ysgol y Bendigaid Carlo Acutis gyda podlediwr i ddatblygu podlediad sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl. Ffocws y prosiect oedd datblygu sgiliau llafaredd y dysgwyr. Creodd athrawon, dysgwyr a’r ymarferydd creadigol amgylchedd lle bu modd i ddysgwyr rannu eu profiadau eu hunain o iechyd meddwl mewn ffordd oedd yn meithrin fforwm trafod aeddfed.

Cwestiwn myfyrio: Sut gallech chi wneud dysgu’n fwy dilys yn eich lleoliad eich hun?

O ystyried natur ymchwiliol dysgu creadigol, rhaid rhoi llawn cymaint o sylw i’r broses o ddysgu ag i unrhyw gynnyrch terfynol posibl. Mae’r dysgu wedi ei strwythuro mewn ffordd sy’n caniatáu lle i’r annisgwyl ddigwydd. Heb fod dan gyfyngiadau gweithio tuag at gynnyrch terfynol penodol, mae’r dysgu’n fwy hyblyg, sy’n creu’r potensial ar gyfer o nifer o ddeilliannau.

Awgrym defnyddiol: Mae athrawon wedi dweud wrthym fod dulliau creadigol o ddysgu’n aml yn gallu teimlo’n anghyffyrddus wrth eu defnyddio am y tro cyntaf. Peidiwch â phoeni, mae hyn yn rhan normal o’r broses newid, a byddem yn eich annog chi i weithio trwy’r sialensiau cychwynnol yma.

Myfyrio: Sut gallwch chi sicrhau fod y broses o ddysgu’n bwynt ffocal ar gyfer dysgu yn y dosbarth?

Mae dysgu creadigol yn addas iawn i weithgareddau, gweithredoedd a digwyddiadau sy’n ymgysylltu dosbarth neu grŵp cyfan. Yn y cyd-destun hwn, mae dysgwyr yn meithrin parch at wahaniaethau a chreadigrwydd eu cymheiriaid, a hynny’n aml gan wella eu sgiliau cydweithio a negodi hefyd. Mae’r gweithredoedd cydweithredol yma’n cyd-fynd yn dda â phrosesau gweledol o ddysgu lle mae myfyrio’n rhan naturiol o’r broses.

Esiamplau go iawn:

Aeth dysgwyr Blwyddyn 2 Ysgol Gymunedol Pennar ati i ddylunio a chreu gardd ar dir eu hysgol er mwyn denu pryfed a bywyd gwyllt.

Bu dysgwyr CA3 yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn gweithio gydag ymarferydd dylunio theatr i ddatblygu eu sgiliau rhifedd. Cydweithiodd y dysgwyr i ddylunio ystafell Ddianc ar gyfer dysgwyr o bob oedran yn yr ysgol oedd yn ffeindio sgiliau rhifedd sylfaenol yn anodd.

Cwestiwn myfyrio: Pa weithgareddau, gweithredoedd neu ddigwyddiadau gallech chi eu cynnig a fyddai’n ymgysylltu eich dosbarth cyfan?