Yn dilyn adroddiad yr Athro Dai Smith, ac argymhellion Donaldson ar newid y cwricwlwm Cymraeg, mae gennym ni gynllun newydd.

Mae Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau – cynllun gweithredu i Gymru yn darparu trywydd i bobl ifanc gael mynediad i’r celfyddydau. Mae gennym ni arlwy o gyfleoedd sy’n canolbwyntio ar gyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan yn eu haddysg, ac i ddatblygu eu sgiliau creadigol.

Ewch yma i ddarllen y cynllun llawn, neu yma am ganllaw hwylus.

Credu mewn creadigrwydd

Rydym ni’n credu mewn creadigrwydd, ac eisiau gweld sgiliau creadigol disgyblion yn cael eu datblygu ledled y cwricwlwm ysgolion. Mae gwneud y cyfleoedd hyn yn hygyrch i ddisgyblion o bob cefndir yn flaenoriaeth i ni.

Dyma’n bwriadau:

  • Gwella cyrhaeddiad drwy greadigrwydd.
  • Cynyddu a gwella profiadau a chyfleoedd celfyddydol mewn ysgolion.
  • Sicrhau tair egwyddor sylfaenol – lleihau effaith anfantais, gwella llythrennedd a gwella rhifedd.
  • Cefnogi athrawon ac ymarferwyr y celfyddydau i ddatblygu eu sgiliau.

Rydym ni’n arloesi yma yng Nghymru drwy osod creadigrwydd wrth wraidd y cwricwlwm. Credwn y dylai plant a phobl ifanc ddysgu am y celfyddydau, drwy’r celfyddydau.

 

Cliciwch yma i weld ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf.

Ewch yma i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr Dysgu Creadigol drwy'r celfyddydau.