Mae Cynnig y Celfyddydau ac Addysg dros Gymru Gyfan yn galluogi ysgolion i weithio ag artistiaid a sefydliadau celfyddydol, gan hefyd greu cyfleoedd i gyfoethogi addysgu ar draws y cwricwlwm. Mae tair elfen i’r cyfle.

Drwy’r elfen gyntaf, y Rhwydwaith Rhanbarthol Celfyddydau ac Addysg, darperir gofod i ysgolion a sefydliadau celfyddydol rannu ymarfer da a chanfod partneriaethau. Darperir hyfforddiant drwy’r rhwydwaith er mwyn galluogi artistiaid i gynllunio’u gwaith gydag anghenion ysgolion mewn golwg.

Mae Cronfa Profi’r Celfyddydau yn ei gwneud hi’n hygyrch i blant a phobl ifanc gael mynediad at arlwy o brofiadau celfyddydol. Drwy gronfa Ewch i Weld, mae gan ddisgyblion gyfle i brofi digwyddiadau celfyddydol o safon uchel ledled Cymru. Mae’n bosib i ysgolion a sefydliadau celfyddydol gymryd rhan hefyd yn y cynllun Cydweithio Creadigol, sy’n cefnogi prosiectau celfyddydol uchelgeisiol a blaengar. Ewch yma am ragor o wybodaeth.

Yn olaf, mae dau adnoddau digidol sy'n cefnogi athrawon:

Y Parth Dysgu Creadigol, porth celf a dysgu creadigol sy'n cael ei gynnal ar Hwb, llwyfan dysgu Cymru gyfan. Mae'r Porth wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan athrawon, dysgwyr, cyrff celfyddydol a diwylliannol ac ymarferwyr. Mae'n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i ysgolion, yn arddangos arfer orau, yn cynnal adnoddau i athrawon a sefydliadau celfyddydol/diwylliannol, yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd dysgu proffesiynol, ac yn cynnwys cysylltiadau ar gyfer rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Ewch yma am fwy o wybodaeth.

Mae’r pecyn gwybodaeth newydd i athrawon, Celc, hefyd ar gael. Mae Celc yn arddangos sut y gall y celfyddydau ddarparu cyfleoedd hynod a chyfoethog i ddisgyblion, gan fodloni anghenion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Ewch yma i ddysgu mwy.