Yn dilyn sgyrsiau gyda'n cydweithwyr Addysg Llywodraeth Cymru rydym bellach yn cyflwyno gwahanol elfennau o'n rhaglen trwy lwyfannau ar-lein.

Ein nod yw darparu dysgu creadigol, gafaelgar sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau i gefnogi athrawon a disgyblion mewn ysgolion a chartrefi.

Dysgu creadigol yn ystod coronafeirws

Mae ein gwaith yn cynnwys comisiynu artistiaid o ystod o ddisgyblaethau celfyddydol i ddarparu Dosbarthiadau Meistr a gweithdai Celfyddydau Mynegiadol ar-lein ac i barhau i arwain profiadau dysgu creadigol.

Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd Ewch i Weld i roi cyfle i fwy o ddysgwyr ledled Cymru gael profiadau cyfoethogi'r celfyddydau trwy ddod â chasgliad o berfformiadau, arddangosfeydd, darlleniadau a digwyddiadau diwylliannol eraill ynghyd mewn un adnodd ar-lein.

Ewch i Weld – tanio’r ysfa

Mae profiadau celfyddydol a diwylliannol yn ysbrydoledig, yn heriol, yn ddeniadol ac yn hwyl, ac yn chwarae rhan bwysig yn nysgu ein pobl ifanc ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw. Credwn y dylai ein plant a'n pobl ifanc gael cyfle i gael eu hysbrydoli a'u cyffroi gan y gorau sydd gan y celfyddydau yng Nghymru i'w gynnig. 

Casgliad rhithwir cyffrous o brofiadau cyfoethog sydd ar gael i ysgolion a disgyblion ledled Cymru

Mae’r casgliad rhithwir hwn, sydd yn rhan o raglen Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn cynnig ffordd i athrawon a disgyblion weld perfformiadau theatr, arddangosfeydd, teithiau amgueddfa, mynd y tu ôl i'r llenni a  mwy. Gan ddod â llawenydd a chreadigrwydd i bawb yn eu cartref ac mewn ysgolion, mae hyn yn nodi dull newydd tuag at ein rhaglen ymweliadau byw hynod lwyddiannus Ewch i Weld.

Gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol bydd cyfleoedd yn cael eu uwch-lwytho'n wythnosol. I weld beth sydd ar gael trwy ein Rhithwir Ewch i Weld ewch i’r Parth Dysgu Creadigol.

Ddosbarthiadau Meistr Celfyddydau Mynegiannol

O animeiddio i beintio i ddawnsio a ffilmio - mae sesiwn greadigol ar gael at ddant pawb. Mae'r Dosbarthiadau Meistr yn cael eu uwch-lwytho'n wythnosol i’r Parth Dysgu Creadigol.