Fel rhan o raglen arloesol Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau, mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfle newydd, cyffrous i ysgolion ac Ymarferwyr Creadigol.
Bydd Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru yn sbarduno rhwydwaith o ysgolion i ddyfeisio a darparu prosiectau arloesol a chreadigol. Bydd athrawon a dysgwyr yng Nghymru yn cael cyfle i:
- Archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol
- Archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ddoe a heddiw
- Gweithio ochr yn ochr ag Ymarferwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu
- Cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022
Cefndir
Mae Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru yn tynnu ar gryfderau'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi helpu ysgolion i archwilio syniadau ac ymagweddau newydd at addysgu a dysgu dros y 5 mlynedd diwethaf.
Wrth wraidd y cynllun mae cyd-adeiladu, cyd-gyflwyno, ffocws ar lais y disgyblion a rhoi’r rhyddid iddyn nhw wneud penderfyniadau. Mae’n seiliedig ar waith ymholiadol sy'n defnyddio’r celfyddydau ac addysgeg greadigol i archwilio themâu, materion a heriau ar draws pob maes dysgu.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych ddiddordeb, awgrymwn yn gryf eich bod yn mynychu un o'n sesiynau briffio ar-lein. Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y cynnig ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
Cynefin: Sesiwn Friffio i ysgolion
Dydd Gwener, 26ain Chwefror 2021 12:00yh - 1:00yp. Cofrestru yma.
Dydd Gwener 5ed Mawrth 2021 12:00yh - 1:00yp. Cofrestru yma.
Bydd ceisiadau am grant yn agor ychydig ar ôl Hanner Tymor Chwefror.
Mae'r cynllun yn agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd a gynorthwyir gan awdurdodau lleol a chymorth gwirfoddol, gan gynnwys ysgolion arbennig a chyfleusterau addysg arbennig. Mae croeso i ysgolion sydd wedi derbyn grant Ysgolion Creadigol Arweiniol o'r blaen i wneud cais.
Nid yw ysgolion sy'n derbyn cyllid grant ar hyn o bryd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gymwys i wneud cais.