Diweddariad: Mae'r dyddiad cau wedi ei estyn i 17.00 15 Mehefin 2022.
Mae ceisiadau ar agor unwaith eto ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol arloesol, sy’n rhan o drydydd cam Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru – cynllun gweithredu i Gymru.
O heddiw ymlaen, gall arweinwyr ysgol wneud cais i gychwyn ar archwiliad cofiadwy a fydd yn eu cefnogi i gydweithio ag Asiantwyr Creadigol ac Ymarferwyr Creadigol i feithrin creadigrwydd eu dysgwyr wrth iddynt weithredu a gwreiddio Cwricwlwm i Gymru.
Ers dechrau’r rhaglen yn 2015, mae 678 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan gynhyrchu dros 1,800 o ymgysylltiadau athrawon a dros 42,000 o ddysgwyr. Mae athrawon a dysgwyr wedi profi’r fantais o gydweithio â gweithwyr creadigol proffesiynol i ddyfeisio ymagweddau creadigol dilys a diddorol at addysgu a dysgu.
Beth yw Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol?
Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn ymyriad dau gam sy’n cefnogi ysgolion i ddatblygu eu harfer wrth archwilio addysgeg dysgu creadigol trawsnewidiol, Arferion Creadigol y Meddwl a’r ystafell ddosbarth Gweithrediad Uchel, yn unol â phedwar diben craidd Cwricwlwm i Gymru. Mae’r cynllun yn annog arweinwyr ysgol i ymgorffori newidiadau i addysgeg, ar draws eu lleoliad, trwy ddylunio profiadau dysgu creadigol a dilys, gyda chefnogaeth Asiantwyr Creadigol ac ymarferwyr.
Ar bob cam, mae athrawon, dysgwyr ac Asiantwyr ac Ymarferwyr Creadigol yn cydweithio i ddylunio gweithgaredd unigryw i helpu i fynd i’r afael â heriau penodol a nodir yng nghynllun datblygu’r ysgol.
Meini prawf cymhwysedd:
* ar gael i unrhyw ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru (Cyfnod Sylfaen – CA4) nad sydd eto wedi cymryd rhan yng Nghynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
Gwahoddir penaethiaid ac uwch arweinwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ymuno â Chynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i gofrestru i fynychu sesiwn friffio ar-lein. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn dolen i gyfarfod Zoom.
Sesiynau Briffio Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ar gyfer Arweinwyr Ysgol
Sesiwn Holi ac Ateb Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ar gyfer arweinwyr Ysgol.
Dylai ysgolion ymweld â’r dudalen Grantiau a chwblhau Ffurflen Gais Ysgolion Creadigol Arweiniol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17.00 ar 15 Mehefin 2022.
Byddwn yn anelu at hysbysu ysgolion o'n penderfyniadau erbyn diwedd Tymor yr Haf.
Os oes gennych gwestiynau am eich cais, sydd heb gael eu hateb yn ein Cwestiynau Cyffredin, gallwch gysylltu â ni drwy dysgu.creadigol@celf.cymru