Archwilio sut mae ein hamgylchedd yn eff eithio ar ein ff ordd o ddysgu yw nod ein prosiectau Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Yn ystod y fl wyddyn gyntaf, bu’r ymarferydd yn canolbwyntio ar ardaloedd awyr agored yr ysgol, gan adeiladu drysfeydd, cuddfannau, llwybrau ac yn y pendraw dyfeisio ‘ynysoedd’ i weld sut mae newidiadau yn ein hamgylchedd yn newid ymatebion y disgyblion.

Cymerodd y disgyblion ran mewn ymchwiliadau amrywiol ac ymarferol trwy gynnal dialog parhaus am sut maen nhw’n teimlo, yn symud ac yn canolbwyntio wrth ddysgu. Ar hyn o bryd, mae’r staff  a’r disgyblion yn cydweithio â Craig Thomas a thri myfyriwr o Adran Dylunio Mewnol Met Caerdydd.

Maen nhw’n archwilio golau, maint, lliw a ‘pharthau’, ac wrth gyfl awni ymchwiliadau ymarferol o’r ystafell ddosbarth, mae’r disgyblion yn defnyddio’r fathemateg y maent wedi ei ddysgu yn ystod yr wythnos yn ymarferol i fesur, pennu graddfa ac ail-ddylunio’r ystafell.

Asiant Creadigol: Lizzy Stonhold
Ymarferwyr Creadigol: Blwyddyn 1 – Greg White. Blwyddyn 2 – Craig Thomas a myfyrwyr dylunio mewnol Prifysgol Metropolitan Caerdydd
29 o ddysgwyr Blwyddyn 4 a 5