Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Parhaol

Gradd D: Cyflog cychwynnol o £44,718

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl 

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau y deallwn effaith ein buddsoddiad ac adrodd arno i sicrhau y defnyddiwn ein harian yn ddoeth. Drwy gasglu a dadansoddi data, gallwch ddarparu gwybodaeth a data i'n helpu i asesu pa mor effeithiol yr ydym wrth gyflawni'n hamcanion. Defnyddir y wybodaeth hefyd i ddarparu dealltwriaeth ehangach o effaith ein harian a'r gweithgareddau a ariannwn.

Amdanoch chi

Bydd gennych radd mewn disgyblaeth berthnasol gan gynnwys ystadegau a dulliau ymchwilio a/neu meddwch ar brofiad proffesiynol sylweddol ym maes ymchwil a gwerthuso. Bydd gennych wybodaeth gynhwysfawr o ddulliau ymchwilio a gwerthuso, gyda rhifogrwydd ardderchog a sgiliau dadansoddi da a deallwch sut y gwneir polisi cyhoeddus a rheoli prosiect.

Un o'ch swyddogaethau penodol fydd rheoli arolwg y sefydliadau refeniw. Rhaid ichi fod yn gyfarwydd â meddalwedd ymchwil a thechnolegau cronfa ddata, feddu ar sgiliau ardderchog o ran Excel, gwybod am Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a sut i ysgrifennu adroddiadau'n hyderus.

Gallwch weithio'n ddychmyglon a hyblyg i ymgymryd â her y gwaith, bod yn flaengar ac egnïol i ffynnu mewn gweithle prysur gan gyflawni sawl tasg ar yr un pryd.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion. 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         5yh, Dydd Gwener 6 Mehefin 2025

Cyfweliadau:                         Wythnos 16eg - 20fed Mehefin 2025

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. 

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.