Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Parhaol
Gradd E: Cyflog cychwynnol o £56,286
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Dim ond drwy ein pobl y gall Cyngor Celfyddydau Cymru gyflawni ei uchelgeisiau ar gyfer y sector yn llwyddiannus ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael diwylliant bywiog sy’n arwain drwy ein gwerthoedd, sy’n amrywiol ac yn gynhwysol, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar les ein staff.
Mae'r rôl hon yn hollbwysig wrth lunio a meithrin diwylliant ein cwmni, gan sicrhau aliniad â'n nodau strategol, a meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, cynhwysol sy'n perfformio'n dda.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am Bennaeth Pobl a Diwylliant blaengar, deinamig a phrofiadol i gefnogi’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes i ddatblygu a chyflawni strategaeth pobl hirdymor a menter datblygu sefydliadol sy’n cefnogi amcanion strategol a gweledigaeth CCC. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad helaeth mewn datblygiad sefydliadol a gyrru newid diwylliannol
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i ddysgu a siarad Cymraeg i safon sy'n galluogi ei defnydd ym musnes y Cyngor yn hanfodol. Ar ôl cael eich penodi byddwn yn darparu mynediad i Wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol i'ch helpu i ddatblygu a gwella eich sgiliau iaith ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 5yh, Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Wythnos 16eg - 20fed Mehefin 2025
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.