Gan adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn ddiwethaf, mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfle pellach i leoliadau Blynyddoedd Cynnar nas cynhelir sy’n gweithio gyda phlant 3 – 5 oed fod yn rhan o raglen sefydledig Dysgu Creadigol Cymru.
Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn. Mae’n dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o ddatblygu amgylcheddau a phrofiadau dysgu a all ysgogi datblygiad a chwilfrydedd naturiol plant 3-5 oed.
Mae gan y fenter dri nod:
- dod ag ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac ymarferwyr creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir, i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac a fydd yn cefnogi plant fel dysgwyr annibynnol
 - deall rôl ganolog creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plentyn.
 - cyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariennir a nas cynhelir, gydag addysgeg yr Arferion Creadigol y Meddwl, yn ogystal a dysgu o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.
 
Beth fydd y cynnig yn ei olygu
- Bydd y fenter yn dechrau gyda chwrs hyfforddi undydd wyneb yn wyneb a chwrs hyfforddi ar-lein hanner diwrnod a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Mudiad Meithrin gyda chyfleoedd ychwanegol i fyfyrio a rhwydweithio.
 - Bydd yr hyfforddiant hanner diwrnod ar-lein yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 20 Tachwedd 2023. Bydd yr hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 5 Chwefror 2024.
 - Caiff pob lleoliad ei baru ag Asiant Creadigol i ddylunio prosiect dysgu creadigol a fydd yn archwilio chwe egwyddor y fenter.
 - Bydd yr Asiant Creadigol yn cefnogi recriwtio Ymarferwr Creadigol, neu artist, a fydd yn cyd-gyflawni'r prosiect dros gyfnod o 10 wythnos yn gweithio gyda'r plant 3 – 5 oed o fewn y lleoliad.
 - Mae sesiwn hyfforddi hanner ffordd ar gyfer yr Ymarferydd arweiniol o bob lleoliad.
 - Bydd dathliad cydweithredol terfynol a sesiwn rhannu yn digwydd ar ddiwedd mis Mehefin 2024.
 
Cyllid a chefnogaeth
Bydd pob lleoliad yn derbyn 4 diwrnod o gefnogaeth gan Asiant Creadigol.
Bydd pob lleoliad yn derbyn grant o £2,500 tuag at y gost o gyflogi Ymarferwr Creadigol (artist) am gyfnod sy'n cyfateb i 7 diwrnod a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect.
Bydd pob lleoliad yn derbyn £125 ynghyd â chostau teithio i dalu am gost un aelod o staff, yr Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar arweiniol yn y prosiect i fynychu hyfforddiant yn ystod wythnos 5 Chwefror 2024.
Cymhwysedd
Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn agored i leoliadau nas cynhelir sy’n gweithio gyda phlant 3 – 5 oed.
I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i'ch lleoliad fod yn:
- Elusen gofrestredig gyda phwyllgor a reolir yn wirfoddol a chofrestriad AGC ar gyfer gofal plant
 - Aelod o Blynyddoedd Cynnar Cymru a/neu Fudiad Meithrin
 - cynnig Hawl Blynyddoedd Cynnar
 
Sut i wneud cais
Diwrnod cau cyflwyno Mynegiant o ddiddordeb yw 5pm 4 Hydref 2023.
Timeline
| 
			 Dyddiad cau cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb  | 
			
			 5pm 4 Hydref 2023.  | 
		
| 
			 Sesiynau hyfforddi – presenoldeb yn hanfodol  | 
			
			 Wythnos 20 Tachwedd - hanner diwrnod ar-lein Wythnos 5 Chwefror - 1 diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb  | 
		
| 
			 Cyfnod cynllunio Yn cynnwys recriwtio Ymarferwyr Creadigol a chyflwyno ffurflen Gynllunio 
  | 
			
			 28 Tachwedd tan 8 Mawrth  | 
		
| 
			 Cyfnod gweithredu’r gwaith  | 
			
			 8 Ebrill - 14 Mehefin (peth gorgyffwrdd â'r cyfnod gwerthuso)  | 
		
| 
			 Digwyddiad Rhannu a Gwerthuso Yn cynnwys cyflwyno ffurflen Werthuso  | 
			
			 Wythnos 24 Mehefin - digwyddiad rhannu/gwerthuso  | 
		
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â:
Tîm Dysgu Creadigol – dysgu.creadigol@celf.cymru
Moya Williams, Blynyddoedd Cynnar Cymru - moyaw@earlyyears.wales
Helen Williams, Mudiad Meithrin - helen.williams@meithrin.cymru