14 – 16 Mehefin
Sut mae adeiladu byd lle nad oes gan greadigrwydd ffiniau – man lle mae’r dychymyg yn cael ei harneisio i’w lawn botensial? Ymunwch â thîm Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer digwyddiad digidol tridiau a fydd yn archwilio pŵer creadigrwydd mewn addysg.
Bydd y digwyddiad tridiau ar-lein hwn yn dod ag ystod o ddylanwadwyr cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a'u mewnwelediad am greadigrwydd. Yn ogystal, bydd hefyd cyfres o sesiynau rhyngweithiol ar gyfer athrawon a gweithwyr creadigol proffesiynol. Bydd cyfle hefyd i glywed gan ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol – y cynllun arloesol sydd wedi cefnogi athrawon i archwilio dulliau arloesol o addysgu a chefnogi dysgwyr i dyfu fel unigolion annibynnol, creadigol. Wedi’i gynllunio gyda’r Cwricwlwm i Gymru ar y gorwel, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig ysbrydoliaeth ac awgrymiadau byd go iawn i’r rhai sy’n newydd i ddysgu creadigol yn ogystal â’r rhai sydd am ddyfnhau eu dealltwriaeth.
Bydd y wefan yn cael ei diweddaru'n gyson gyda mwy o sesiynau am ddim i chi ymuno â nhw.
Sesiynau i gynnwys:
Diwrnod 1 – 14 Mehefin 2022
- Sgwrs banel “Mae cwricwlwm newydd i Gymru wedi cyrraedd”, gyda chyfraniad gan Michael Elliot (Prif Weithredwr Dros Dro, Cyngor Celfyddydau Cymru) a neges fideo wedi’i recordio ymlaen llaw gan Jeremy Miles AS (Gweinidog y Gymraeg ac Addysg)
- Sesiwn “Addysgu gyda'r corff a'r synhwyrau yn greadigol” gyda Marcelo Maira
Diwrnod 2 – 15 Mehefin 2022
- “Addysgu gyda'r corff a'r synhwyrau yn greadigol” gyda Molara Awen
- Sgwrs banel “O Safbwynt yr Asiant Creadigol”.
Diwrnod 3 – 16 Mehefin 2022
- “Creadigrwydd a gweddill y byd” gyda gwesteion o Iwerddon, yr Iseldiroedd ac Awstralia
- “Adrodd straeon ac amrywiaeth yn y cyfnod Sylfaen” gyda Phil Okwedy