Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus swyddogol sy'n datblygu ac ariannu celfyddydau Cymru. Rydym ni’n cynnig grantiau gydag arian Lywodraeth Cymru, y Loteri Genedlaethol a ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill.
Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau wrth wraidd ein bywyd a’n lles, gan wneud ein gwlad yn lle cyffrous a bywiog i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Mae hyn yn golygu cydnabod hawl diwylliannol ac anghenion creadigol pob unigolyn a chymuned ledled Cymru.
Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau: cynllun gweithredu i Gymru 2015-2020 yw rhaglen bartneriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi trawsnewid addysg drwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth ei gwraidd. Cynhaliwyd cam cyntaf y rhaglen yn y cyfnod 2015-20 ac fe'i hestynnwyd am 2 flynedd arall ar gyfer 2020–2022.
Ers 2015, mae'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn gweithio gyda 658 ysgol ledled Cymru, ac mae 113 ohonynt yn ysgolion uwchradd. Roedd cyfleoedd felly i dros 300 athro uwchradd gydweithio â gweithwyr creadigol yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu dulliau o ddysgu creadigol.
Fel rhan o Gam 2, lansiodd y Cyngor gyfle penodol i ysgolion uwchradd a fu gynt yn Ysgolion Creadigol Arweiniol.
Ei nod yw cynorthwyo'r ysgolion uwchradd i archwilio, datblygu a gwreiddio ymhellach eu dealltwriaeth o ddysgu creadigol yn y Meysydd Dysgu ac archwilio sut i gynllunio a darparu’r cwricwlwm wrth ymbaratoi at y Cwricwlwm i Gymru.
Canolbwyntia’r Cynnig Gwell i Ysgolion Uwchradd ar ymgorffori creadigrwydd yn y cwricwlwm drwy weithio gyda gweithwyr creadigol a chanolbwyntio ar ddysgu proffesiynol i athrawon. Bu’n gweithio gyda grŵp bach o ysgolion sydd, gydag Asiantau ac Ymarferwyr Creadigol, yn ffurfio rhwydwaith i rannu profiadau.
Nod y cynnig oedd rhoi cyfle i:
- Gweithio gyda gweithwyr creadigol i ddatblygu a gwreiddio arferion ac addysgeg dysgu creadigol yn ddyfnach yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, trawsnewid deilliannau disgyblion a newid y diwylliant dysgu
- Cydgynllunio rhaglen i ymateb i anghenion gweithwyr addysg
- Gweithredu blaenoriaethau datblygu’r ysgol, gan ganolbwyntio ar flwyddyn 7 ac 8
- Archwilio dulliau trawsnewidiol a myfyriol o ddysgu
- Cydweithio i ffurfio rhwydwaith dysgu o weithwyr addysgu mewn ysgolion uwchradd
- Cefnogi eich ysgol i baratoi at y Cwricwlwm i Gymru
Y Briff
Chwiliwn am unigolyn neu sefydliad i werthuso'r Cynnig Gwell i Ysgolion Uwchradd.
Byddwch chi’n gweithio gydag ysgolion, Asiantau Creadigol, Ymarferwyr Creadigol ac aelodau o’n tîm yn y Cyngor i werthfawrogi profiadau pawb.
Rydym ni’n chwilio am safbwynt allanol i dynnu sylw at y dysgu, y gwersi a'r problemau yn y rhaglen.
Rydym ni’n arbennig o awyddus i werthuso’r canlynol:
- A yw'r prosiectau unigol wedi helpu ysgolion a chyfranogwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ymarfer creadigol yn y cwricwlwm a’i effaith ar ddeilliannau disgyblion?
- Effaith y rhaglen ar ddatblygiad proffesiynol athrawon yn yr ysgol, drwy gymryd rhan yn y rhwydwaith a thrwy sgyrsiau ehangach ymhlith ei gilydd, gyda'u Hasiant Creadigol, eu disgyblion a'r Ymarferwyr Creadigol
- Yr effaith ar ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau datblygu ysgolion yn y Meysydd Dysgu
- Effaith a manteision posibl y cysylltiadau a’r cydweithio rhwng y Meysydd Dysgu a Phrofiad unigol
- Sut mae'r rhaglen wedi helpu athrawon i baratoi at y Cwricwlwm i Gymru 2022
- A fu unrhyw ganlyniadau annisgwyl o'r prosiect?
- Cipolwg ar y cymhlethdodau sy'n wynebu ysgolion uwchradd heddiw
- Yr effaith ar y gweithwyr creadigol
Gallwch gyflwyno'r gwerthusiad mewn nifer o wahanol ffyrdd ac rydym ni’n agored i glywed eich syniadau am sut i gyflawni hyn.
Rydym ni’n rhagweld y bydd y ffi am y gwaith tua £10,000.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân James, Rheolwr y Rhaglen: sian.james@celf.cymru
Sut i ymgeisio
Rydym ni am i'r broses ymgeisio fod mor deg â phosibl. Byddwn ni’n gwneud addasiadau rhesymol i hwyluso hyn. Cysylltwch â ni os oes unrhyw addasiadau y gallem eu gwneud neu gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i'ch cynorthwyo chi a/neu'ch sefydliad. Gyda'n gilydd y byddwn ni’n cytuno ar opsiynau gwell. Os oes angen y wybodaeth arnoch mewn fformat arall neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â ni drwy'r e-bost uchod.
Nid oes ffurflen gais. Yn hytrach, gofynnwn i chi a/neu'ch sefydliad gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn esbonio pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y gwaith.
Yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth o'r sector addysg a'r problemau sy'n wynebu system ein hysgolion uwchradd.
Gofynnwn ichi anfon llythyr atom sy'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:
* Pam mae gennych chi a/neu'ch sefydliad ddiddordeb mewn gwerthuso'r cynllun
* Eich gwybodaeth a'ch profiad a fydd o fudd i’r gwaith
* Sut rydych chi a/neu'ch sefydliad yn gweld y gwaith sy'n cael ei gyflawni
* Cyllideb fanwl
Anfonwch eich llythyr at: sian.james@celf.cymru erbyn 17/09/2021.
Cewch wybod ein penderfyniad ar 30/09/2021