Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn defnyddio pŵer gwahanol ddulliau o weithredu o ran dysgu creadigol ac egwyddorion addysgeg y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae’n cynnig cyfle i ysgolion weithio gydag amrywiaeth o Broffesiynolion Creadigol i archwilio amrywiaeth ethnig Cymru yn y gorffennol a’r presennol, a chyfraniadau hyn at y gymdeithas a diwylliant.

Mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn gweithio ochr yn ochr â’u proffesiynolion creadigol i archwilio amrywiaeth ethnig Cymru’r gorffennol a’r presennol, a chyfraniad hyn at gymdeithas a diwylliant y wlad. Mae athrawon a disgyblion un dosbarth yn cydweithio â’u proffesiynolion creadigol i ddylunio a chyd-greu prosiect yn seiliedig ar bwnc penodol sy’n caniatáu i ddysg newydd ddatblygu trwy sesiynau creadigol. Mae’r proffesiynolion creadigol yn aml yn defnyddio’u profiadau bywyd i sicrhau bod y gweithgareddau’n gyfleoedd dysgu dilys sy’n cysylltu’r cwricwlwm â byd go iawn y dysgwyr a’u cymunedau.
Mae nodau eang y rhaglen wedi creu’r cyfle i ysgolion yng Nghymru:
- archwilio hunaniaeth mewn perthynas â magwraeth yn y Gymru gyfoes
- archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas sy’n ddiwylliannol amrywiol
- meithrin ymwybyddiaeth am y bobl, y diwylliannau a’r cymunedau sy’n ffurfio’r Gymru gyfoes
- archwilio profiadau a chyfraniadau pobl o wahanol ddiwylliannau ac ethnigrwydd yng Nghymru, yn y gorffennol a’r presennol
- gweithio ochr yn ochr â’r Proffesiynolion Creadigol mewn amgylchedd dysgu er mwyn cyfoethogi ansawdd yr addysgu a dysgu
- cydategu dulliau gweithredu ac arferion gwrth-hiliaeth cyfredol.
Pam ddylwn i wneud hyn?
Dyma ambell i sylw gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Mae’r prosiect yma wedi gwneud i mi feddwl yn galed am helpu pobl a meddwl yn fwy am fywydau pobl eraill
Rydyn ni wedi gweld pa mor bwerus yw defnyddio’r celfyddydau i annog dysgwyr i ystyried beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ‘adrodd stori’ neu gynrychioli, dogfennu, rhannu a dathlu’r hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol sy’n bodoli yn ein cymuned, yng Nghymru ac yn y byd ehangach.
Ar ddiwrnod cyntaf y prosiect, roedd yr adeilad yn bownsio â llinellau bas. Mae’r sgyrsiau amrywiol am ddiwylliant a gwreiddiau hip hop wedi gadael treftadaeth aruthrol, gan ddatguddio ein dysgwyr i bob math o elfennau creadigol bendigedig.
Mae gweithio â’r deinameg o gynnwys lleisiau’r plant ar bob cam ac ymddiried yn y broses wedi bod yn broses werth chweil iawn ar lefel bersonol a phroffesiynol. Fe ddechreuon ni trwy sefydlu lle diogel i gynnal sgwrs agored, lle gallai aelodau’r dosbarth siarad yn onest ac yn agored, heb deimlo eu bod yn cael eu beirniadu neu eu hamharchu.
Fel athro’r dosbarth, rwy’n credu bod y prosiect yma wir wedi helpu i sefydlu empathi a pharch ymysg y plant. Rydyn ni eisoes yn ysgol ofalgar iawn oherwydd ein gwerthoedd eglwysig, ond mae’r prosiect yma wir wedi dangos sut rydyn ni’n wahanol.

Er nad yw hi’n bosibl tynnu arbenigedd creadigol proffesiynolion creadigol i mewn bob tro, mae yna gamau y gall athrawon eu cymryd i sefydlu dulliau dysgu creadigol yn eu harferion. Mae’r hyb athrawon yn cynnig rhywfaint o arweiniad ar sut i gymryd y camau cychwynnol i ddatblygu gweithgarwch dysgu yn y dosbarth.
Bydd ceisiadau ar gyfer Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn agor yn hydref 2023. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y bwletin dysgu Creadigol.
